John Major
Dywedodd y cyn Brif Weinidog Ceidwadol Syr John Major wrth Ymchwiliad Leveson heddiw bod Rupert Murdoch wedi gofyn iddo newid polisi ar Ewrop.

Fe rybuddiodd Rupert Murdoch – perchennog The Sun a The Times – na fyddai ei bapurau newydd yn cefnogi’r Llywodraeth Geidwadol ar y pryd oni bai bod newid polisi, meddai Syr John wrth yr ymchwiliad i safonau’r wasg.

Dywedodd John Major bod y sgwrs wedi digwydd dros ginio ym mis Chwefror 1997 – ychydig fisoedd cyn i’r Blaid Lafur ennill yr etholiad cyffredinol. Roedd Rupert Murdoch yn awgrymu y dylid cynnal refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai.

“Dywedodd Mr Murdoch nad oedd yn hoffi ein polisïau Ewropeaidd,” meddai John Major. “Doedd hynny ddim yn syrpreis i fi.”

Ychwanegodd: “Roedd am i fi newid ein polisïau Ewropeaidd. Os nad oeddan ni’n newid y polisïau yna ni fyddai ei bapurau newydd yn gallu, neu ddim yn fodlon, cefnogi’r Llywodraeth Geidwadol. Doeddwn i yn sicr ddim am newid ein polisïau,” meddai John Major.

Ym mis Ebrill dywedodd Rupert Murdoch wrth Ymchwiliad Leveson: “Dydw i erioed wedi gofyn i brif weinidog am unrhyw beth.”

‘Kinnock wedi ei bortreadu’n annheg’

Wrth roi tystiolaeth heddiw, dywedodd John Major ei fod yn teimlo bod ei gyn wrthwynebydd, Neil Kinnock, wedi cael ei bortreadu yn annheg gan y wasg pan oedd yn arweinydd y Blaid Lafur.

“Roedd y Neil Kinnock roeddwn i’n ei adnabod yn ddyn onest iawn, a didwyll.  Roedd yn cadw at ei air.”