Gordon Brown
Mae’r cyn Brif Weinidog Llafur Gordon Brown wedi beirniadu’r ffordd mai rhai papurau newydd wedi rhoi sylw i ran y DU yn y rhyfel yn Afhganistan.

Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw dywedodd bod “un papur newydd yn benodol” wedi awgrymu “nad oedd ots” ganddo am luoedd Prydain yno.

Fe gyfeiriodd Gordon Brown yn benodol at The Sun am y ffordd roedd wedi ei bortreadu ar sawl achlysur mewn adroddiadau yn ymwneud ag Afghanistan. Un enghraifft, meddai, oedd adroddiadau ei fod wedi syrthio i gysgu yn ystod gwasanaeth coffa i’r milwyr ond ei fod, mewn gwirionedd, “yn gweddïo.”

Roedd Gordon Brown hefyd wedi mynnu nad oedd The Sun erioed wedi rhoi llawer o gefnogaeth iddo, hyd yn oed cyn i’r papur benderfynu cefnogi’r Ceidwadwyr yng nghanol Cynhadledd y Blaid Lafur yn 2009.

Plant yn cael sylw yn y wasg

Wrth drafod stori yn The Sun yn 2006 am gyflwr ei fab, Fraser, sy’n dioddef o ffibrosis systig, dywedodd Gordon Brown nad oedd erioed wedi bwriadu i’w blant gael sylw yn y cyfryngau ac mae wedi awgrymu y dylai gweithgareddau’r papur gael eu herio.

Mae cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks wedi gwadu ei bod wedi cael y wybodaeth drwy hacio i gofnodion meddygol, gan honni bod y wybodaeth wedi dod gan ffynhonnell sy’n gysylltiedig â’r elusen sy’n rhoi sylw i’r cyflwr.

Mae’r GIG yn Fife wedi ymddiheuro gan ddweud ei bod yn debygol mai aelod o staff y gwasanaeth iechyd fu’n gyfrifol am ryddhau’r wybodaeth i’r Sun, a hynny heb awdurdod. Ond dywedodd y prif weithredwr John Wilson ei bod yn annhebygol bod rhywun wedi cael mynediad i gofnodion meddygol y plentyn.

Mynnodd Gordon Brown nad oedd ef na’i wraig wedi rhoi caniatâd i’r papur gyhoeddi’r stori.