David Cameron a'i wraig Samanatha gyda'i merch Florence
Yn ôl adroddiadau bore ma, roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi gadael ei ferch wyth oed mewn tafarn ar ôl cinio dydd Sul, yn dilyn camddealltwriaeth gyda’r wraig Samantha.

Aeth merch y cwpl, Nancy, i’r tŷ bach wrth iddyn nhw drefnu pwy oedd yn mynd adre gyda phwy. Roedd y ddau wedi cyrraedd nôl adre pan naethon nhw sylweddoli nad oedd eu merch gyda nhw, yn ôl The Sun.

Roedd David Cameron wedi rhuthro nôl i’r Plough Inn yn Cadsden, Sir Buckingham, lle’r oedd y staff yn gofalu am ei ferch.

Roedd y teulu wedi bod yn cael  cinio gyda’u plant, Nancy, Arthur, 6, a Florence, 22 mis, yn ogystal â dau deulu arall.

Pan adawodd y grŵp y dafarn, aeth David Cameron adre mewn un car gyda’i staff diogelwch gan feddwl bod Nancy gyda’i wraig a’r plant eraill mewn car arall. Roedd Samantha Cameron yn credu bod Nancy gyda’i thad.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod y ddau wedi cael sioc o ddarganfod nad oedd Nancy gyda nhw, ac fe ruthrodd David Cameron yn ôl i’r dafarn.

Roedd Nancy wedi bod yno am ryw 15 munud ar ei phen ei hun, meddai’r llefarydd, gan ychwanegu bod hyn wedi digwydd deufis yn ôl.