Caeredin
Mae’r SNP yn dweud y byddai Alban annibynnol yn un o’r gwledydd mwyaf cyfoethog yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r blaid wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos y byddai’r Alban yn fwy cyfoethog na’r Deyrnas Unedig.
Meddai Kenneth Gibson o’r SNP sy’n aelod o Lywodraeth yr Alban, “Mae’r ffigyrau swyddogol hyn yn dangos unwaith eto cyfoeth yr Alban, ac yn chwalu hygrededd ymdrechion y gwrth-annibynwyr i siarad yn nawddoglyd am economi’r Alban a’i gallu i wneud ei phenderfyniadau ei hun.
“Mae llwyddiant gwledydd Ewropeaidd bychain annibynnol yn bleidlais o hyder ysgubol yn yr achos economaidd dros Alban annibynnol.”
Ond mae honiadau’r SNP wedi cael eu gwrthod yn llwyr gan Ken Mackintosh, llefarydd cyllid y Blaid Lafur yn yr Alban.
“Mae’r mwyafrif o economegwyr yn amheus iawn o’r ffigurau hyn,” meddai Mr Macintosh.
Dywedodd fod gwledydd mawr yn gallu dod drwy’r storm economaidd yn well na gwledydd bychain.