Andrew Mitchell
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd £10 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i wledydd yng Ngorllewin Affrica sy’n dioddef sychder mawr.

A gyda 1.5 miliwn o blant yn wynebu newyn yn ardal Sahel, mae Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth Prydain, Andrew Mitchell, yn annog gwledydd eraill hefyd i gyfrannu mwy o arian.

“Wnaiff Prydain ddim eistedd yn ôl tra bo plant yn marw oherwydd newyn yn Sahel,” meddai. “Mi wnaethon ni’r ymdrech i daclo’r argyfwng bwyd yn Nwyrain Affrica ac mae’n bryd i eraill yn y gymuned ryngwladol wneud yr un peth,” meddai.