Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi dweud bod y Frenhines yn berson doniol iawn.

Dywedodd y Cymro Cymraeg Dr Rowan Williams, a fydd yn gadael ei swydd ym mis Rhagfyr, bod gan y Frenhines “bersonoliaeth go iawn”.

“Doeddwn i erioed wedi cwrdd ag unrhyw un o’r Teulu Brenhinol cyn dechrau ar y swydd hon,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, a dweud y gwir. Ond roedd y Frenhines yn gyfeillgar ac anffurfiol iawn y tu ôl i ddrysau caeedig.

“Mae hi’n gallu bod yn ddoniol iawn. Dydw i ddim yn meddwl bod pobol yn sylweddoli pa mor ddoniol yw hi.

“Mae hi’n barod iawn i bobol dynnu ei choes hi, ac yn barod iawn i dynnu coes pobol eraill. Ond mae hi’n cadw ei hurddas, hefyd.

“Rydw i’n credu ein bod ni wedi bod yn hynod o lwcus wrth gael, yn bennaeth ar y wlad, rhywun sydd â phersonoliaeth go iawn.”

Dywedodd ei fod yn cwrdd â’r Frenhines yn breifat tua unwaith neu ddwywaith bob blwyddyn.

“Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig i bobol y wlad yma am ei bod hi’n arwydd o sefydlogrwydd, yn arwydd o ddiogelwch,” meddai.

“Mae hi wedi gweithio’n galed er mwyn deall y gymdeithas y mae hi ynddo, a mynd â llif y newidiadau sy’n digwydd.

“Mae hi wedi bod yn symbol, a’n arwydd o sefydlogrwydd drwy gydol y cyfnod hwnnw.”