Fe fydd gweithwyr Remploy o bob cwr o Gymru yn ymuno â gorymdaith yng Nghaerdydd heddiw er mwyn gwrthwynebu cynlluniau i gau’r ffatrïoedd sy’n cyflogi pobol anabl.

Fe allai hyd at 1,700 o bobol golli eu swyddi ledled y Deyrnas Unedig pan fydd 36 o’r 54 o ffatrïoedd yn cau.

Yng Nghymru fe fydd saith o’r naw ffatri Remploy yn cau, gan beryglu 281 o swyddi.

Mae’r ffatrïoedd yn Abertawe, Wrecsam, Aberdâr, Merthyr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, a Chroespenmaen.

Mae undeb Unite yn credu bod nifer anghymesur o’r ffatrïoedd sy’n cau yng Nghymru.

Fe fydd aelodau undeb Unite a GMB yn cwrdd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd am hanner dydd.

Fe fyddwn nhw’n gorymdeithio drwy Stryd y Frenhines ac yn ôl i Neuadd y Ddinas, gan gynnal rali am 1.15pm.

“Mae Unite ac GMB yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau ffatri Remploy,” meddai ysgrifennydd Unite, Andy Richards.

“Unwaith eto fe fyddwn nhw’n taro’r gweithwyr mwyaf agored i niwed, galetaf. Rydyn ni’n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ac rydyn ni’n cydweithio â nhw er mwyn sicrhau dyfodol teg i Remploy.”