Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Cymru yn pryderu y bydd prifysgolion y wlad yn ei chael hi’n anoddach denu myfyrwyr rhyngwladol oherwydd polisi mewnfudo llywodraeth San Steffan.
Dywedodd Leighton Andrews wrth raglen Dragon’s Eye y gallai prifysgolion golli miliynau mewn nawdd oherwydd newidiadau fydd yn atal myfyrwyr rhyngwladol rhag dod i Brydain.
Mae wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron, er mwyn nodi ei bryderon.
Roedd pob un o brifysgolion Cymru yn ceisio denu myfyrwyr rhyngwladol, meddai.
“Y gobaith yw na fyddwn ni’n gweld cwymp artiffisial yn nifer y myfyrwyr o dramor sy’n dod i Gymru o ganlyniad o bolisi Llywodraeth San Steffan,” meddai
Mae Llywodraeth San Steffan yn gwadu y bydd newid y system teithebau yn ei gwneud hi’n anoddach i brifysgolion ddenu myfyrwyr o dramor.
Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, bod y system teithebau ar gyfer myfyrwyr wedi ei gamddefnyddio yn y gorffennol.
Roedd darparwyr y teithebau wedi bod yn gwerthu cyfle i fudo i’r Deyrnas Unedig yn hytrach na chyfle i gael addysg, meddai.