Chris Huhne
Fe fydd y cyn-ysgrifennydd ynni, Chris Huhne, a’i gyn-wraig yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Honnir fod Chris Huhne wedi argyhoeddi ei gyn-wraig, Vicky Pryce, i gymryd ei bwyntiau goryrru bron i ddegawd yn ôl.
Yn ôl yr honiadau gwelwyd car Chris Huhne yn goryrru ar y draffordd rhwng Maes Awyr Stansted yn Essex a Llundain ym mis Mawrth 2003.
Ond ni ddaeth y mater at sylw’r heddlu nes 2010, ar ôl i briodas 26 mlynedd Chris Huhne, sy’n dad i bump o blant, a Vicky Pryce ddod i ben.
Roedd wedi cyfaddef iddo gael perthynas â dynes arall, ei ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus Carina Trimingham.
Bu’n rhaid i’r dyn 57 oed, sy’n Aelod Seneddol etholaeth Eastleigh yn Hampshire, ymddiswyddo o’r Cabinet ym mis Chwefror er mwyn brwydro yn erbyn yr honiadau.
Bydd Chris Huhne, o Dutton Lane, Eastleigh, a Vicky Pryce, o Crescent Grove, Clapham, de Llundain, yn ymddangos o flaen Llys y Goron Southwark er nwyn pledio’n euog neu’n ddieuog.