Un o bapurau rhanbarthol Trinity Mirror
Mae adroddiadau bod cyn-olygyddion papurau newydd y Daily Mirror a’r Sunday Mirror yn gobeithio cymryd rheolaeth o gwmni Trinity Mirror Group cyn iddyn nhw gael eu diswyddo.
Yn ôl ymchwiliad gan bapur newydd y Telegraph, roedd Richard Wallace a Tina Weaver wedi gobeithio meddiannu’r cwmni a gwerthu’r 130 papur newydd rhanbarthol sy’n eiddo i Trinity Mirror ar hyn o bryd.
Mae papurau newydd Trinity Mirror yng Nghymru yn cynnwys y Western Mail, y South Wales Echo a’r Daily Post.
Cyhoeddodd Trinity Mirror ddydd Mercher bod Richard Wallace a Tina Weaver wedi eu diswyddo, ac y bydd y Daily Mirror a’r Sunday Mirror yn cael eu cyfuno yn un papur saith diwrnod.
Cafodd Lloyd Embley, golygydd papur newydd The People, ei benodi yn olygydd ar y Daily Mirror saith diwrnod yn ogystal.
Yn ôl papur newydd y Telegraph roedd y cynllun yn ei ddyddiau cynnar a dyw hi ddim yn amlwg eto pa bapurau newydd yr oedden nhw’n bwriadu eu gwerthu.
Yn ôl ffynonellau’r papur fe allai fod yn haws iddyn nhw feddiannu’r cwmni, â chymorth noddwr cefnog, am nad ydyn nhw bellach yn gweithio yno.