Mae milwr o Brydain wedi cael ei ladd yn Affganistan.

Roedd y milwr yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Royal Welsh. Roedd ar batrôl yn ardal Nahre-e Saraj yn nhalaith Helmand pan gafodd ei gerbyd ei chwythu i fyny gan fom.

Mae teulu’r milwr wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae 415 o filwyr o Brydain bellach wedi cael eu lladd yn Affganistan.