Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd arbennig i bobol i beidio â gadael plant neu anifeiliaid yn y car  mewn tywydd poeth.

“Nid ydym am i bobol gael eu dal gan fod y tymheredd y tu mewn i gerbyd yn codi’n llawer cynt na’r tymheredd y tu allan, hyd yn oed os ydi ffenestr ar agor,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae gadael plant neu anifeiliaid mewn car heb neb i ofalu amdanyn nhw yn beryglus, ychwanegodd.

Mae’r tymheredd heddiw yng Nghymru wedi cyrraedd 24 °C.