Yvonne Fletcher wedi ei saethu yn 1984
Mae prif weinidog Libya, Abdurrahim El-Keib, wedi ymweld â’r fan lle cafodd y blismones Yvonne Fletcher ei saethu’n farw y tu allan i lysgenhadaeth Llundain yn 1984.

Fe ymwelodd Mr El-Keib â’r safle ar ôl i Heddlu Llundain gyhoeddi y byddan nhw’n hedfan i Libya er mwyn cario ymlaen â’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth sydd eto i gael ei datrys.

Fe oedodd y Prif Weinidog a gwyro ei ben o flaen y gofeb i Yvonne Fletcher. Fe osododd dorch o rosod a carnations gwynion yno.

Nid oes neb wedi ei gael yn euog o’r llofruddiaeth.

Mae Mr El-Keib wedi addo ddoe y bydd ei wlad yn “gweithio’n agor iawn” gyda’r Deyrnas Unedig, a hynny’n dilyn trafodaethau gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron.

Fe gafodd Yvonne Fletcher, a oedd yn 25 oed pan fu farw, ei saethu’n farw wrth iddi blismona protest gwrth-Gaddafi. Fe ddaeth y bwledi a’i lladdodd o’r tu mewn i’r llysgenhadaeth.