Mae Hewlett Packard wedi rhybuddio am doriadau yn y DU wrth iddyn nhw ddiswyddo 27,000 o weithwyr yn fyd eang.

Mae’r cwmni technoleg o’r UDA yn bwriadu torri 8% o’i weithlu o 350,000 o bobl yn sgil cystadleuaeth gan gwmniau eraill.

Dywedodd Hewlett Packard, sydd a’i bencadlys yn Palo Alto ger San Francisco, Califfornia, y bydd y toriadau yn arbed £2.2 biliwn.