Achos Lockerbie yn llyfr agored yn ôl Alex Salmond
Mae David Cameron wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad newydd i achos fomio’r awyren tros dref Lockerbie, a hynny wedi marwolaeth y dyn o Libya a gafwyd yn euog o’r drosedd.

Roedd Prif Weinidog Prydain hefyd yn bendant na ddylai Abdelbaset Ali al-Megrahi fyth fod wedi cael ei ryddhau o garchar yn yr Alban bron i dair blynedd yn ôl.

Fe gafodd y cyn-swyddog gwybodaeth ei ddedfrydu i oes o garchar am achosi’r ffrwydrad ar awyren Pan-Am 103 ym mis Rhagfyr 1988, trychineb a laddodd 270 o bobol.

Ond fe ddaeth hi’n amlwg wedyn ei fod yn diodde’ o ganser y prostad nad oedd yn bosib ei drin, ac fe gafodd ei ryddhau ym mis Awst 2009 gan lywodraeth yr Alban – bryd hynny, y gred oedd mai dim ond tri mis oedd ganddo i fyw.

Bu farw yn ninas Tripoli ddoe, yn 60 mlwydd oed.

Achos teg

“Dw i wedi bod yn glir ar y mater hwn erioed, dw i ddim yn meddwl y dylai fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar,” meddai David Cameron.

“Dw i’n dal i gredu fod yr achos llys wedi cael ei gynnal yn deg.”

Llyfr agored

Ond mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn mynnu fod achos Lockerbie yn “llyfr agored” ac y dylai’r awdurdodau barhau i ymchwilio i’r mater.

“Mae marwolaeth Mr Megrahi yn cau un bennod yn achos Lockerbie, ond dydi hi ddim yn cau’r llyfr,” meddai, gan ychwanegu ei fod ef wedi credu erioed nad gweithredu ar ei ben ei hun yr oedd Megrahi.