Y Teulu Brenhinol yn gwylio'r Red Arrows
Fe wnaeth dros ddwy fil a hanner o aelodau o’r lluoedd arfog gymryd rhan mewn digwyddiad  ger Castell Windsor y bore yma i ddathlu Jiwbili’r Frenhines.

Yn ychwanegol fe wnaeth 78 o awyrennau hen a newydd hedfan uchwben y castell a daeth y dathliadau i ben wrth i dim y Red Arrows hedfan heibio.

Dyma’r tro cyntaf i’r lluoedd arfog uno mewn un digwyddiad arbennig ac er mai 2,500 fu’n gormdeithio heibio’r Frenhines a chynulleidfa o 3,800, roedd tua ugain mil wedi ymgynyll mewn parc cyfagos.

Cafodd darnau newydd o gerddoriaeth eu comisiynu yn arbennig ar gyfer yr achlysur a’u chwarae gan fandiau’r lluoedd.