Awdurdodau China yn y maes awyr heddiw
Mae’r ymgyrchydd dall o China, Chen Guancheng, ei wraig a’u dau o blant ar eu ffordd i’r Unol Daleithiau ar ôl iddo ddianc o’i gartref yng ngogledd ddwyrain y wlad ble roedd wedi cael ei arestio a’i gamdrin.

Mae Chen Guancheng wedi ymgyrchu yn erbyn polisi’r llywodraeth o orfodi teuluoedd i gael un plentyn yn unig ers blynyddoedd a chafodd ei garcharu am bedair blynedd yn 2006. Ar ôl cael ei ryddhau, cafodd ei orfodi i aros yn ei gartref.

Fe wnaeth o anafu ei droed wrth ddianc o’i gartref a theithio cannoedd o filltiroedd i ofyn am loches yn llysgenhadaeth yr UDA. Ar ôl chwe niwrnod yno fe gytunodd i adael y llysgenhadaeth a mynd i’r ysbyty.

Fe achosodd hyn dyndra diplomyddol rhwng America a China ddyddiau yn unig cyn trafodaethau rhwng Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, Hilary Clinton a swyddogion llywodraeth China ar faterion economaidd.

Ddechrau’r mis yma, gofynodd Chen Guangcheng am help i adael China efo’i deulu gan ddweud ei fod ofni dial gan yr awdurdodau.

Heb unrhyw fath o rybydd, cafodd Mr Guancheng orchymyn i gasglu ei bethau a bod yn barod i adael ychydig wedi hanner dydd heddiw, ond chafodd o ddim gwybod i ble roedd ef a’i deulu yn hedfan a chawson nhw ddim eu trwyddedau teithio tan y funud olaf.

Mae Mr Guancheng wedi dweud droeon ei fod yn poeni y bydd yr awdurdodau yn dial ar ei deulu estynedig ar ôl iddo adael.

Mae awdurdodau China yn dweud ei fod wedi cael caniatad i adael y wlad er mwyn mynd dramor i astudio. Mae wedi cael lle i astudio’r gyfraith yn Efrog Newydd.