Eira mawr y llynedd
Mae’r mis Rhagfyr oeraf ers dechrau cadw cofnod wedi costio mwy na £1biliwn mewn difrod i adeiladau a cherbydau, meddai cwmnïau yswiriant.
Yn ogystal â dod â’r economi i stop, roedd y tywydd garw wedi arwain at £38miliwn mewn ceisiadau yswiriant bob dydd, yn ôl ffigyrau newydd gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain.
Roedd y cwmnïau yswiriant wedi derbyn £1.4 biliwn o geisiadau ym mis Rhagfyr – mwy na dwbl y £650miliwn o geisiadau a gafwyd o ganlyniad i eira’r flwyddyn gynt.
Fe wnaeth yswirwyr ddelio â £900 miliwn o geisiadau adeiladau yn ystod y mis – y nifer uchaf erioed i’w achosi gan dywydd oer.