George Osborne - wedi cynyddu'r dreth ar fanciau
Mae mwy na hanner y cyfraniadau diweddar i’r Blaid Geidwadol wedi dod o’r Ddinas yn Llundain, yn ôl ymchwiliad gan newyddiadurwyr.

Mae’n awgrymu bod 51% o’r £22.5 miliwn a roddwyd i’r Torïaid yn ystod naw mis cynta’ 2010 wedi dod gan gwmnïau gwasanaethau ariannol ac unigolion yn y Filltir Sgwâr.

Roedd hynny’n werth £11.4 miliwn yn ôl y Bureau of Investigative Journalism a’r gyfran ddwywaith yn uwch nag yr oedd yn 2005.

Ond mae llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol yn dweud ei bod “yn anhygoel” awgrymu bod cyfraniadau ariannol yn dylanwadu ar bolisi.

Roedd yn tynnu sylw at ddatganiad y Canghellor, George Osborne, ddoe yn cyhoeddi ei fod yn cynyddu’r dreth ar y banciau mawr o £800 miliwn y flwyddyn.