Vince Cable - does dim ateb hawdd
Mae Vince Cable wedi cydnabod nad oes un ffordd rwydd o ail-danio’r economi.
Wrth gyflwyno mesurau y byddai’n rhaid i weinidogion ymgymryd â nhw er mwyn annog adfywiad yn yr economi, mae’r Gweinidog Busnes wedi cynnig torri ar fiwrocratiaeth, ac ail-drefnu’r diwydiant bancio.
Ond, er hynny, roedd yn rhybuddio fod “absenoldeb unrhyw dwf yn yr economi yn her enfawr” a bod hynny’n rhan fawr o’r rhwystredigaeth y mae’r cyhoedd yn ei demimlo. Mae’n ddealladwy hefyd, meddai wedyn, fod pobol yn ddiamynedd eisiau gweld adfywiad.
“Fe achosodd y trafferthion ariannol gwymp o 10% yn ein heconomi,” meddai Vince Cable, “ac mae wedi llusgo i’r llawr hefyd safonau byw nifer fawr o bobol.
“Ond does yna ddim un ffordd allan o’r problemau ariannol hyn.”
Yn ôl Vince Cable, mae’r creisis ariannol o fewn parth yr ewro yn gwneud tasg y llywodraeth yn fwy anodd, ond fod y dryswch a’r anrhefn ar y cyfandir yn cyfiawnhau’r modd y mae’r llywodraeth glymblaid yn San Steffan yn benderfynol o dorri’n ôl ar wariant.
Ac wrth gymryd rhan yn y drafodaeth yn Nhy’r Arglwyddi ar Araith y Frenhines, fe alwodd Vince Cable y model ariannol a gafodd ei ddefnyddio yn sail i dwf yr economi o ganol y 1990au ymlaen, yn “llawn tyllau”.
“Roedd yn hollol ddibynnol ar y rhith y gellid creu twf trwy sector fancio chwyddedig, trwy swigen o brisiau tai, dyledion oedd yn balwnio y tu hwnt i reolaeth, a dyledion na ellid eu cynnal,” meddai Vince Cable.