Mae bachgen 13 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Derby lle bu farw pump o’i frodyr a’i chwiorydd.

Bu farw Duwayne Philpott yn ysbyty’r Plant yn Birmingham, yn ôl heddlu Sir Derby.

Cafodd ei chwaer Jade, 10, ei frodyr John, 9, Jack, 7, Jessie, 6 a Jayden, 5 i gyd eu lladd yn y tân yn Heol Victory yn Allerton, Derby yn ystod oriau mân ddydd Gwener.

Dywed yr heddlu bod tad y plant, Mick Philpott wedi gwneud ymdrech i achub y plant ond wedi methu.

Cafodd dynes 28 oed a dyn 38 oed o Derby eu harestio gan swyddogion sy’n ymchwilio i’r marwolaethau ond fe gawson nhw ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad ddoe.

Mae’r heddlu’n dal i drin y tân fel un amheus ac yn apelio am wybodaeth.