Dywed yr heddlu fod tân mewn tŷ yn Derby lle bu farw pump o blant yn oriau mân fore Gwener yn dal i gael ei drin fel un amheus.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith i’r dyn a’r ddynes a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth gael eu rhyddhau’n ddigyhuddiad neithiwr.

Roedd y ddynes 28 oed a’r dyn 38 oed, y ddau Derby, wedi cael eu harestio gan blismyn yn ymchwilio i farwolaethau pum brawd a chwaer rhwng 5 a 10 oed.

Fe fu’r plant farw mewn tân yn eu tŷ yn Victory Road, Allenton Derby, ac mae eu brawd 13 oed, a oedd hefyd yn y tân, yn dal mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Birmingham.

“Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth sy’n gofal am ymchwilio gofalu a methodegol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cotterill.

“Rydyn ni’n dal i drin y tân fel un amheus ac yn parhau â’n hymchwiliadau.”

Apêl am wybodaeth

Dywedodd hefyd ei bod yn syndod iddo cyn lleied o bobl oedd wedi cysylltu â’r heddlu gyda gwybodaeth.

“Dw i’n amau’n gryf fod yna rhywun allan yn y gymuned sy’n gwybod mwy nag sy’n cael ei ddweud wrthon ni,” meddai.

“Dw i’n deall yn iawn y gall pobl fod yn gyndyn i siarad gyda ni. Fe apêl yn yr achos hwn yw cofio ein bod ni’n ceisio darganfod beth yn union a achosodd farwolaeth y plant ifanc yma.

“Os oes rhywun wedi ymddiried ynoch chi, nawr yw’r amser i siarad ac i wneud y peth iawn.”