Mae’r Weiniyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod dau filwr o Brydain – gan gynnwys aelod o’r Gwarchodlu Cymreig – wedi cael eu saethu’n farw gan aelodau o heddlu Afghaniston
Cafodd y milwr o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig ac aelod o’r Llu Awyr Brenhinol eu lladd ddoe yn ardal Lashkar Gah o dalaith Helmand.
Roedden nhw’n gweithredu fel gwarchodwyr mewn cyfarfod gyda swyddogion lleol mewn gwersyll patrol, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.
Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd Nato i’r ddau gael eu saethu gan ddau ddyn mewn iwnifform heddlu Afghanistan a bod un wedi cael ei ladd a’r llall wedi dianc wrth i filwyr danio’n ôl.