Mae 16 o bobl oedd ar fwrdd hofrennydd, a laniodd ym Môr y Gogledd, yn ddiogel.

Roedd timau achub wedi cael eu galw toc wedi hanner dydd ar ôl i’r hofrennydd fynd i drafferthion tua 25 oddiar arfordir Aberdeen.

Roedd 14 o deithwyr ar yr hofrennydd a dau aelod o’r criw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy’n cynnal yr hofrennydd, Bond Offshire, fod pawb yn ddiogel ac wedi llwyddo i fynd i rafft achub.

Mae’n debyg bod golau wedi fflachio yn yr hofrenydd i rybuddio am bwysau olew isel ac fe benderfynodd y peilot lanio’r hofrennydd yn y môr.

Roedd yr hofrennydd ar ei ffordd i lwyfan olew Maersk Resilient pan aeth i drafferthion.