Mae pump o bobl ifanc yn cael eu holi heddiw ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad ym Mirmingham ddoe.

Mi gafodd dyn 19 oed ei drywanu yn y digwyddiad yng nghanol y ddinas.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod merch 16 oed a dau lanc 15 a 16 oed wedi cael eu harestio yn fuan ar ôl i’r dyn, a oedd wedi ei anafu’n ddifrifol, gael ei ddarganfod yn gynnar bore ddoe.

Arestiwyd dau lanc arall – un yn 14 oed a’r llall yn 15 oed – yn ddiweddarach.