Mae’r heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i fom yn cynnwys 500 pwys o ffrwydron ger Newry dydd Iau diwethaf.
Daethpwyd o hyd i’r bom ar ffordd y Fathom Line, yn agos i’r ffin efo’r Weriniaeth.
Mae’r Aelod Cynulliad lleol, Danny Kennedy sy’n perthyn i blaid Unoliaethwyr Ulster, yn dweud bod y ddyfais yn rhan o gynllun i ddenu plismyn i’r ardal a’u lladd.
Ychwanegodd ei fod yn amau mai gweriniaethwyr anfodlon sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch sy’n gyfrifol am osod y bom a’i fod yn bryderus iawn am niferoedd yr ymosodiadau sydd wedi eu cynllunio neu sydd wedi digwydd yn ardal Newry.
Yn gynharach y mis yma daethpwyd o hyd i fom arall ger trofa Cloghogue ar y brif ffordd ddeuol rhwng Dulyn a Belffast.
Yn ôl yr heddlu roedd digon o ffrwydon i ladd nifer helaeth o bobl yn y bom yma hefyd.