Ken Clarke
Ni fyddai Llywodraeth Geidwadol yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi o fewn y senedd yma, cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, heddiw.

Awgrymodd y byddai hyd at chwe aelod o’r Cabinet yn hoffi oedi’r cynlluniau, ond bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn benderfynol o weld y newidiadau.

Mae’n debyg bod Philip Hammond, Iain Duncan Smith, Michael Gove, Eric Pickles, Owen Paterson a’r Arglwydd Strathclyde wedi mynegi eu pryderon.

Wrth siarad ar Sky News, dywedodd Ken Clarke ei fod o blaid ail siambr wedi ei ethol.

“Mae Tŷ’r Arglwyddi fel ag y mae o yn anomaledd hanesyddol,” meddai. “Rydw i’n credu ein bod ni’n barod am ddemocratiaeth.

“Roedd pob un o’r tair prif blaid o blaid diwygio Tŷ’r Arglwyddi yn ysntod yr etholiadau diweddaraf.

“Ond y Rhyddfrydwyr sydd wedi penderfynu ar yr amseru. Maen nhw eisiau gweld y newidiadau yn digwydd o fewn y senedd yma.”

Adroddiad

Bydd pwyllgor o ASau ac Arglwyddi yn cyhoeddi adroddiad yfory yn argymell diwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Mae disgwyl iddyn nhw alw am siambr lle mae 80% o’r aelodau wedi eu hethol, a lle mae aelodau yn cael gwasanaethau am 15 mlynedd yn unig.

Fe fydd yr aelodau yn cael eu talu tua £50,000 y flwyddyn am y gwaith. Mae disgwyl y byddwn nhw’n cael gwneud swyddi eraill y tu allan i’r senedd.