Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi galw am refferendwm dros gynlluniau i ddisodli Tŷ’r Arglwyddi.
Mae disgwyl y bydd adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory yn argymell y dylid sefydlu ail siambr sydd wedi ei ethol yn gyfan gwbwl.
Dywedodd y cyn-Aelod Cynulliad sydd bellach yn San Steffan, Glyn Davies, y byddai cael gwared ar Dŷ’r Arglwyddi yn newid sylweddol i’r modd y mae Prydain yn cael ei lywodraethu.
Wrth siarad â Radio Wales dywedodd ei fod “yn credu y dylid bwrw ymlaen â’r cynnig am newid”.
“Ond yn bersonol, rydw i’n teimlo y dylid bod refferendwm,” meddai AS Sir Drefaldwyn.
“Mae’n newid anferth i’r modd yr ydyn ni’n llywodraethu Prydain, nid yn unig i Dŷ’r Arglwyddi ond i Dŷ’r Cyffredin hefyd.
“Dydw i ddim yn teimlo y dylid bwrw ymlaen heb refferendwm.”