Mae na fygythiad o’r newydd am streic ymhlith gyrrwyr tanceri tanwydd heddiw ar ôl i gynrychiolwyr undeb wrthod cytundeb a fyddai wedi osgoi gweithredu diwydiannol.

Dywed Unite y byddan nhw nawr yn cynnal trafodaethau pellach gyda chyflogwyr a does dim dyddiadau ar gyfer cynnal streiciau wedi eu cyhoeddi.

Roedd tua 60 o gynrychiolwyr y gyrrwyr tanceri o saith cwmni wedi body n trafod y cynigion oedd wedi eu cyflwyno yn dilyn chwe diwrnod o drafodaethau gyda’r gwasanaeth cymodi Acas.

Mae’r anghydfod yn ymwneud â thelerau ac amodau, pensiynau a iechyd a diogelwch.