Fe fyddai cael gwared ar wyliau banc yn ychwanegu £18 biliwn at albwm economaidd y Deyrnas Unedig, yn ôl melin drafod ddylanwadol.

Dywedodd y Ganolfan Ymchwil Busnes ac Economaidd bod pob gŵyl banc yn costio £2 biliwn i’r Deyrnas Unedig.

Fe fydd yna naw gŵyl banc eleni, gan gynnwys Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Dywedodd Douglas McWilliams o’r felin drafod eu bod nhw wedi dod i’r casgliad bod tua 45% o’r economi yn dioddef o ganlyniad i wyliau banc.

“Mae swyddfeydd, ffatrïoedd, a safleoedd busnes yn tueddu i gau ar Ŵyl y Banc,” meddai.

“Ond mae tua 15% o’r economi, gan gynnwys siopau, tafarndai, bwytai ac atyniadau twristiaeth ar eu hennill, felly mae’r darlun yn un cymysg.

“Yn anffodus mae’r sectorau sydd ar eu colled tua thair gwaith yn fwy na’r sectorau sydd ar eu hennill.”

Ychwanegodd ei fod yn credu fod y Briodas Frenhinol a’r Pasg hwyr y llynedd wedi gwneud drwg i’r economi.

“Roedd pum gŵyl y banc o fewn chwe wythnos ac fe gollodd byd busnes fomentwm bryd hynny ac ni lwyddodd i’w adennill am weddill y flwyddyn,” meddai.

“Mae yna bryder eu bod nhw wedi eu gwasgu’n rhy agos at ei gilydd.”

Ychwanegodd nad oedd yn dweud y dylid cael gwared ar wyliau banc, ond fe fyddai yn syniad da eu gwasgaru.

“Rydw i’n credu y byddai pobol yn eu mwynhau nhw rhagor,” meddai.