Mae nifer y trefi yng Nghymru a Lloegr sydd wedi gweld cynnydd blynyddol mewn gwerthiant tai ar ei isaf ers 2008, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond 43% o’r trefi yng Nghymru welodd gynnydd mewn gwerthiant tai yn 2011, yn ôl arolwg Lloyds TSB.

Roedd Aberdâr yn wythfed ar restr y trefi a welodd y cwymp mwyaf yn nifer y tai a werthwyd. Yn ôl yr arolwg, gwerthodd 16.2% yn llai o dai yn y dref, a syrthiodd prisiau 6.2%.

Dim ond 40%, neu 202 o’r 500 tref ledled Cymru a Lloegr welodd gynnydd mewn gwerthiant tai yn 2011, o’i gymharu â 82% yn 2010.

Mae gwerthiant tai wedi haneru ers i brisiau tai gyrraedd eu huchafbwynt yn 2007.

Dim ond 16% o drefi Llundain welodd gynnydd mewn gwerthiant tai yn 2011, o’i gymharu â 22% yn 2010, er gwaethaf y ffaith bod prisiau tai wedi parhau i godi yno.

Ond gwelodd 61% o drefi dwyrain Anglia gynnydd mewn gwerthiant tai yn 2011.

“Mae’r gweithgaredd o fewn y farchnad dai wedi gwanhau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan adlewyrchu’r pryderon ynglŷn ag economi’r Deyrnas Unedig,” meddai Suren Thiru, economegydd tai Lloyds TSB.

“Mae cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r blaendal sydd ei angen, ac mae hynny’n eu hatal nhw rhag cael mynediad i’r farchnad dai.”