James Murdoch, Cyn-Gadeirydd BSkyB
Mae James Murdoch wedi ildio i’r galwadau heddiw ac ymddiswyddo o’i rôl yn gadeirydd ar BSkyB, wedi iddo gyfaddef fod ei gysylltiadau â sgandal hacio ffonau News International yn bygwth niweidio enw da y cwmni darlledu lloeren.
Dywedodd James Murdoch, a ildiodd ei swydd blaenllaw gyda News International ym mis Chwefror, nad oedd yn dymuno i’w bresenoldeb fod yn gocyn hitio i feirniaid BSkyB.
Ildiodd awenau’r Cadeirydd y prynhawn yma, a hynny wedi misoedd o alwadau arno i wneud hynny.
Er y bydd James Murdoch yn aros ymlaen yn gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd BSkyB, y dirprwy gadeirydd presenol, Nick Ferguson, fydd yn mynd yn gadeirydd.
Mae ei dad, Rupert Murdoch, sef prif weithredwr ar News Corp, wedi cyhoeddi datganiad yn diolch i’w fab am ei “arweiniad llwyddiannus.”
Daw’r cyhoeddiad gan James Murdoch wythnosau’n unig cyn bod pwyllgor Seneddol yn cyhoeddi eu hadroddiad ynglŷn â dulliau gohebu News of the World, a’r sôn y bydd yn rhaid iddo, a’i dad, ymddangos o flaen Ymchwiliad Leveson.
Daw ei ymddiswyddiad llai na phum mis wedi i gyfranddalwyr ei ail-ethol yn Gadeirydd ar BSkyB yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol – er i rai cyfranddalwyr blaenllaw wrthwynebu ei benodiad.
Mewn llythyr yn trafod ei ymddiswyddiad, dywedodd James Murdoch, sydd wedi bod yn gadeirydd ar BSkyB ers 2007, ei fod yn ymwybodol y gallai ei bresenoldeb beri problemau i BSkyB.
“Dwi credu y bydd fy ymddiswyddiad yn helpu sicrhau nad oes unrhyw gyfuno camarweiniol ar weithgareddau a gymrodd lle mewn dau sefydliad cwbwl ar wahan.”