Meri Huws
Mae gwefan newydd Comisiynydd y Gymraeg bellach wedi cael ei lansio.
Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth mewn ffordd hwylus am waith y Comisiynydd: am gyfrifoldebau’r swydd, y gofynion statudol ar wahanol sefydliadau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau preifat a sefydliadau’r trydydd sector i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae yna elfennau rhyngweithiol i’r wefan hefyd – gall y defnyddiwr ddefnyddio’r wefan i lenwi ffurflen gwyno a hefyd i archebu bathodyn sy’n dangos bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. Mae’r peiriant chwilio yn yr adran gyhoeddiadau yn caniatáu i bobl ddiffinio eu chwiliad yn fanwl er mwyn dod o hyd i gyhoeddiadau’n rhwydd, a chaiff y newyddion diweddaraf a’r ffrydiau Trydar hefyd eu postio ar y wefan.
Meddai’r Comisiynydd, Meri Huws,“Rydw i am fod yn glust i gwynion pobl ac yn llais dros siaradwyr Cymraeg. Wrth fynd ati i rannu gwybodaeth am y swyddogaeth hon a’r gwasanaeth Cymraeg y gall y cyhoedd ddisgwyl eu derbyn gan wahanol sefydliadau, mae hi’n bwysig fod yr wybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch, a bod modd i bobl gysylltu â mi ym mhob dull a modd – ar-lein yn ogystal â dros y ffôn, ar e-bost neu drwy’r post.
“Megis dechrau ydym ni ar hyn o bryd, wrth gwrs, a byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth dros amser.”
Cyfeiriad y wefan ydy: http://www.comisiynyddygymraeg.org