Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio heddiw ei bod hi’n angenrheidiol bod cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith i warchod Llyn Padarn, neu fygwth colli rhywogaethau prin am byth.
Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio fod rhywogaeth brin y torgoch Arctig yn prysur ddiflannu oherwydd llygredd allanol, ac y gallai ei ddiflaniad gael effaith pellgyrhaeddol ar ecosystem Llyn Padarn.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi croesawu cynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno gan Dŵr Cymru erbyn hyn i wella safon y dŵr yn Llyn Padarn.
Mewn cyfarfod i drafod y sefyllfa neithiwr, fe gyflwynodd Dŵr Cymru gynlluniau tymor byr a thymor hir i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r cynlluniau’n cynnwys lleihau lefel yr hylifau sy’n gollwng i’r llyn yn ystod yr haf, ac opsiynau ar gyfer newidiadau mawr i rwydwaith carffosiaeth Llanberis.
Dywedodd David Ewell, Rheolwr Gogledd Cymru ar Asiantaeth yr Amgylchedd, fod “llwyddiant y cynigion yn hanfodol i wella safon y dŵr yn Llyn Padarn.”
‘Diflannu o fewn pum mlynedd’
Yn ôl yr Asiantaeth, mae Llyn Padarn bellach mewn sefyllfa bryderus iawn o safbwynt ei gallu i gynnal rhywogaethau unigryw’r torgoch Arctig.
Mae arolwg diweddar wedi dangos fod poblogaeth y torgoch yn beryglus o isel, ac ar y raddfa bresennol, gallai’r rhywogaeth ddiflannu o Lyn Padarn o fewn cyn lleied â phum mlynedd.
Yn ôl ym mis Hydref, cafodd 800 o’r pysgod torgoch bach eu rhyddhau yn y llyn er mwyn ceisio atal eu diflaniad, yn sgil pryderon a godwyd yn 2009 eu bod nhw ar fin diflannu o’r llyn dwy filltir o hyd.
Mae’r Asiantaeth hefyd yn pryderu bod blodeuo algaidd yn mynd i daro’r llyn eto, fel y digwyddodd yn 2009, gydag effeithiau andwyol i’r ecosystem.
Cafodd y blodeuo algaidd yn 2009 ei achosi gan amgylchiadau’r tywydd wedi ei gyfuno â’r lefelau uchel o ffosfforws a lifodd i’r llyn o’r gwaith trin carffosiaeth gerllaw.
Mae’r ffosffadau hyn, sy’n cael eu defnyddio mewn powdwr peiriannau golchi, yn bwydo’r blodeuo algaidd, ond yn tynnu’r ocsigen o’r dŵr – ocsigen sy’n hanfodol i’r pysgod oroesi.
Yn ôl David Ewell, mae’n rhaid taclo’r broblem ar unwaith, cyn i ddiflaniad y torgoch Arctig fygwth ecosystem ehangach Llyn Padarn.
“Dydi hyn ddim yn unig ynglŷn â diflaniad posib y pysgod eiconig yma. Y torgoch yw rhywogaeth fwyaf sensitif Llyn Padarn, a gallai ei ddiflaniad fod yn arwydd fod ecosystem y llyn cyfan dan fygythiad.”
Byddai sefyllfa o’r fath yn cael “sgil effeithiau ar bobol leol a’r economi leol,” meddai.
“Dyma pam r’yn ni’n ymroddedig i sicrhau gwelliannau pellach mor gyflym â phosib, ac mae’n hanfodol bod cynlluniau Dŵr Cymru yn cael eu gweithredu.”