Dr Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint yn credu y dylai Gweddi’r Arglwydd gael ei dysgu yn yr ysgol.
Dywedodd Dr Rowan Williams ei fod yn poeni mai dim ond hanner y plant oedd yn gwybod y weddi 40 mlynedd yn ôl sy’n ei gwybod heddiw.
Meddai ar y rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc, Newsround, “Hoffwn weld ysgolion yn cyflwyno plant i Weddi’r Arglwydd, fel eu bod yn gwybod ei bod yn bodoli, eu bod yn ei deall ac yn gwybod pam ei bod yn bwysig.
“Yna fe allen nhw benderfynu os ydyn nhw am ei defnyddio.”
Mi wnaeth Newsround holi dros fil o blant rhwng 6 a 12 oed, a mil o oedolion a fyddai wedi bod yn blant o’r un oed 40 mlynedd yn ôl, a chymharu’r atebion.
Er mai dim ond hanner y plant heddiw sy’n gwybod y weddi o’i gymharu â 40 mlynedd yn ôl, roedd dwywaith mwy ohonyn nhw heddiw yn debygol o ddweud fod crefydd yn bwysig iddyn nhw.
“Tydi Gweddi’r Arglwydd dim yn fawr neu’n gymhleth,” meddai Dr Williams.
“Does dim rhaid dysgu tudalennau di-ri mewn iaith ddieithr. Mae fersiynau iaith gyfoes ar gael.”
“Dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n rhy anodd i gyflwyno plant i hyn, a’i chyflwyno mewn iaith syml gan beidio â dweud, ‘Mae’n rhaid i chi weddïo hwn,’ ond mae’n hynod o bwysig i lawer iawn o bobol a gall newid eu bywydau.”