Mae’r cynnydd mewn gwerthiant tanwydd o ganlyniad i’r bygythiad o streic gan yrwyr tanceri wedi bod yn hwb i goffrau’r Llywodraeth, datgelwyd heddiw.

Mae’r pwl o banig gan fodurwyr Prydain ddoe yn golygu bod y llywodraeth wedi derbyn £32 miliwn yn ychwanegol mewn treth ar danwydd.

Daw’r ffigyrau gan yr AA ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod gwerthiant petrol wedi cynyddu 81% a disel gan 43%.

Mae Cymdeithas y Gwerthwyr Petrol, sy’n cynrychioli tua 5,000 o fodurdai, yn beio cyngor cymysg Llywodraeth San Steffan.

Roedd un o aelodau’r Cabinet, Francis Maude, wedi annog y cyhoedd i lenwi caniau plastig â phetrol neu ddisel rhag ofn fod streic.

“Dyma’n union beth oedden ni wedi gobeithio ei osgoi – pobol yn panig brynu,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas y Gwerthwyr Petrol.

“Mae’r gyrwyr tanceri yn parhau i wasanaethau’r garejys ac rydyn ni’n annog pobol i barhau i brynu petrol fel y bydden nhw ar ddiwrnod cyffredin.”

Dywedodd llywydd yr AA, Edmund King, nad oes yna streic ac felly y dylai pobol barhau i brynu petrol fel arfer.

“Erbyn hyn mae yna brinder petrol o ganlyniad i gyngor gwael ynglŷn â llenwi ceir a chaniau plastig,” meddai.

Mae Llafur wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “chwarae gemau gwleidyddol” a defnyddio’r streic arfaethedig i gladdu penawdau gwael am y gyllideb a noddwyr y blaid.

Yn y cyfamser mae gwerthiant caniau plastig wedi codi 500%.