Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan heddiw wedi cyhoeddi enwau’r cwmnioedd sydd wedi bidio am gytundebau newydd i gynnal y rheilffyrdd.

Maent yn cynnwys y cytundeb i gynnal Great Western, sy’n gweinyddu’r gwasanaeth rhwng de Cymru a Lloegr.

Cafodd y bidwyr eu datgelu heddiw gan y Gweinidog Rheilffyrdd, Theresa Villiers, a groesawodd y “diddordeb mawr” ymysg cwmnioedd.

Mae FirstGroup, Arriva, National Express a Stagecoach wedi cystadlu am gytundeb 15 mlynedd o hyd i redeg Great Western.

Bydd y cytundebau yn dechrau ym mis Ebrill 2013, ac mae disgwyl y bydd enwau’r cwmnïau buddugol yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2012.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod gorsafoedd rheilffordd Prydain yn prysuro.

Caerdydd Canolig oedd gorsaf brysuraf Cymru, â 11.26 miliwn o deithwyr rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011 – sef cynnydd o 4.8% ar yr un cyfnod yn 2009-10.

Mae wyth o’r gorsafoedd prysuraf ym Mhrydain yn Llundain. Mae Euston, sy’n gwasanaethu gogledd Cymru, yn y chweched safle â 34.07 miliwn o deithwyr rhwng 2010 a 2011, a Paddington, sy’n gwasanaethu de Cymru, yn seithfed â 32.20 miliwn o deithwyr.