Mae cyn fanciwr o Rwsia mewn coma a chyflwr difrfiol dan warchodaeth arfog mewn ysbyty rhywle yn Llundain ar ôl cael ei saethu y tu allan i’w fflat yn y ddinas dydd Mawrth diwethaf.

Cafodd German Gorbuntsov, sydd yn eu ddeugeiniau, ei saethu yn Canary Wharf ac mae Heddlu’r Metropolitan yn gwrthod cadarnhau ym mha ysbyty y mae o am eu bod yn amau ei fod wedi cael ei saethu trwy drefniant.

Dywed ditectifs o dîm Trident sy’n ymdrin â thrais sy’n codi o gangiau yn y brifddinas, eu bod yn chwilio am ŵr croenwyn welwyd yn rhedeg i lawr stryd gyfagos yn fuan wedi’r saethau.

Mae’r Heddlu yn gwrthod cadarnhau hefyd bod cysylltiad rhwng y saethu ag ymdrech i ladd banciwr arall ym Moscow yn 2009 er bod rhai papurau newydd yn Rwsia wedi honni yn ddiweddar bod Mr Gorbuntsov yn dyst i’r ymosodiad ar Alexander Antonov.

Mae Mr Gorbuntsov wedi dweud yn gyhoeddus trwy ei gyfreithwyr ei fod, o bosib, yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ac mae hyn wedi cael ei gyhoeddi mewn sawl papur newydd yn y wlad.

Mae yna gysylltiad hir rhwng trais a busnes yn Rwsia ac mae rhai yn pryderu bod hyn bellach yn ymledu i Lundain er bod Scotland Yard yn mynnu ei bod yn llawer rhy fuan i  wneud sylw ar y mater.