George Osborne
Mae George Osborne yn wynebu pwysau cynyddol wedi iddo arbed 1 biliwn o’i gyllideb drwy gyflwyno “treth mam-gu” ar incymau miliynau o bensiynwyr.

Cyhoeddodd y Canghellor ddoe y byddai yn cael gwared ar y lwfans ar sail oed a gyflwynwyd gan Winston Churchill yn 1925.

Mae grwpiau pobol hŷn wedi dweud fod y penderfyniad yn un “gwarthus”.

Defnyddiodd George Osborne ei gyllideb i dorri’r dreth 50c i’r rheini sydd yn ennill fwyaf, a sicrhau nad ydi miloedd o weithwyr sydd ar yr incymau lleiaf yn talu treth o gwbl.

Ond cadarnhaodd y Trysorlys y byddai 4.5 miliwn o bensiynwyr ar eu colled o ganlyniad i’r penderfyniad i gael gwared ar y lwfans ar sail oed.

Bydd y lwfans yn cael ei dynnu’n ôl i bensiynwyr newydd o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, tra bod lwfans pensiynwyr cyfredol yn cael ei rewi ar £10,500 i’r rheini sydd dros 65, a £10,660 i’r rheini sydd dros 75.

Dywedodd y Trysorlys y bydd pensiynwyr cyfredol yn colli £63 y flwyddyn ar gyfartaledd, a phensiynwyr newydd yn colli £197 y flwyddyn.

Dywedodd Age UK bod y penderfyniad yn un “siomedig,” ac fe feirniadodd Ros Altman, rheolwr gyfarwyddwr Saga Group, yr “ymosodiad cwbl warthus” ar bensiynwyr.