Margaret Thatcher
Mi wnaeth Margaret Thatcher a Rupert Murdoch gyfarfod yn Chequers wythnosau cyn iddo brynu papurau’r Times, yn ôl yn 1981.

Mae ffeiliau sy’n cael eu rhyddhau heddiw yn dangos fod y ddau wedi cyfarfod dros ginio er bod hyn wedi cael ei wadu mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddarach am hanes y Times rhwng 1981 a 2002.

Mae nodyn am y cyfarfod a ysgrifennwyd gan Ysgrifennydd y Wasg Margaret Thatcher, Bernard Ingham, yn nodi fod y Prif Weinidog wedi diolch i Mr Murdoch am adael iddi wybod beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf am y pryniant.

Mae’r datguddiad am eu cyfarfod cyfrinachol yn dod wrth i Ymchwiliad Leveson ddatgelu’r berthynas honedig agos sydd wedi bodoli rhwng y wasg a gwleidyddion ym Mhrydain.