Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi lansio gwefan newydd sy’n cynnig help a chyngor i bobl leol sy’n ei chael hi’n anodd cael hyd i rywle addas i fyw.

Mae’r wefan, Tai Teg, yn galluogi pobl i gofrestru eu manylion ac yn
rhoi gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf a’r gwahanol ddewisiada sydd ar gael o ran grantiau.

Mae Tai Teg wedi ei anelu at bobl leol na allant fforddio prynu ar y farchnad agored ar hyn o bryd, ac a allai fod yn gymwys am help.

Mae’n fenter rhwng Cynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd a’u partneriaid yn y diwydiant tai gyda chefnogaeth cymdeithasau tai, gwerthwyr tai, datblygwyr, adeiladwyr tai a’u cynrychiolwyr.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai Môn, Shan Lloyd Williams, “Mae llawer ohonon ni’n gwybod am y problemau sy’n wynebu pobl ifanc neu deuluoedd ifanc sydd yn ceisio cael hyd i dai fforddiadwy yn eu cymunedau. Mi fydd gwefan Tai Teg yn adnodd i helpu adnabod yr angen am
gartrefi fforddiadwy mewn ardaloedd penodol o’r Ynys.”

Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am dai sydd ar gael, a sut i wneud ceisiadau am gymorth ariannol.

Ychwanegodd Hwylusydd Tai Gwledig Môn, Mary Sillitoe, “Bydd Tai Tegyn cynnwys ffurflen gofrestru syml ar-lein y gall pobl sy’n chwilio am gartref ei llenwi – fel bod cysylltiad yn cael ei ffurfio rhwng y cynlluniau sydd ar gael a’r rheini sydd angen cymorth i brynu.”

Bydd Tai Teg yn ategu’r gwahanol gynlluniau sydd eisoes ar waith ym Môn i helpu darparu cartrefi addas i’w prynu neu ar rent i bobl leol.