Mae’r cyn chwaraewr rhyngwladol a sylwebydd rygbi S4C, Derwyn Jones wedi dod o hyd i gefnogwr mwya’ tîm rygbi Cymru wrth i ni edrych ymlaen at gêm fawr y Gamp Lawn prynhawn ʼma.

Bydd yn rhaid i dîm Gymru gadw eu pen o’r cymylau os ydynt am guro’r Ffrancwyr heddiw – sy’n dasg dipyn yn anoddach i Sultan sy’n 8’ 3’’ o daldra.

Ond gyda chefnogaeth o’r maint hwn, all Cymru ddim colli.

Fe wnaeth Derwyn (6’11”) gwrdd â Sultan Kösen (8’3’’) yn ei gartref yn Nhwrci wrth ffilmio dwy raglen ddogfen ar gyfer S4C.

Yn y ddogfen Pobol: Dyn Talaf y Byd (S4C, Mercher 4 Ebrill 9.00pm) mae Derwyn yn dod i adnabod y dyn y tu ôl i’r teitl ac yn dysgu am y manteision a’r anfanteision o fod y dyn talaf yn y byd.

Mae Derwyn hefyd yn sôn am ei brofiadau ei hun a sut wnaeth chwarae rygbi helpu iddo deimlo’n gyfforddus gyda’i faint.