Mae cwmni bara Greggs wedi cyhoeddi y bydd yn creu 800 o swyddi newydd drwy agor siopau newydd er gwaetha gostyngiad yn eu gwerthiant yn ddiweddar.

Mae’r grŵp, a agorodd 98 o siopau yn 2011 gan ddod â chyfanswm eu siopau i 1,571 erbyn diwedd y flwyddyn, yn dweud y bydd yn agor 90 o siopau yn 2012 gan greu rhwng 700 a 800 o swyddi.

Mae gwerthiant Greggs wedi gostwng 1.8% yn 2012 hyd yn hyn ond fe fu cynnydd o 1.1% yn ei elw i £53.1 miliwn.

Fe fydd 20,000 o weithwyr Greggs yn  rhannu £5.9 miliwn o’r elw fel rhan o gynllun gwobrwyo’r cwmni.

Mae’r cwmni wedi bod yn agor siopau mewn mannau newydd megis gorsafoedd rheilffyrdd a chanolfannau siopau yn hytrach na’r stryd fawr.

Yn ddiweddar cafodd safleoedd eu hagor yng ngorsaf bysys Abertawe a Bryste.