Mae brawd i gyn-actores ar EastEnders wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod heb ben na breichiau mewn camlas.

Cafwyd hyd i gorff Gemma McCluskie, 29 oed, yn arnofio gerllaw marchnad Broadway yn Hackney ddydd Mawrth. Parhau mae’r chwilio am weddillion rhannau eraill ei chorff.

Roedd ei brawd, Tony McCluskie, o Pelter Street, Hackney, wedi cael ei arestio ddydd Mercher. Cafodd y dyn 35 oed ei gyhuddo’n ffurfiol gan yr heddlu neithiwr o ladd ei chwaer rhwng Chwefror 29 a Mawrth 6.

Fe wnaeth Gemma McCluskie, a fu’n chwarae’r cymeriad Kerry Skinner yn 2001, ddiflannu ar ôl mynd i agoriad yr Ysbyty Brenhinol Llundain newydd yn Whitechapel ddydd Iau’r wythnos ddiwethaf. Adroddwyd i’r heddlu ei bod hi ar goll ddeuddydd yn ddiweddarach.