Protestwyr gwrth-niwclear y tu allan i gatiau Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf heddiw i nodi blwyddyn union ers trychineb Fukushime (Tim Ireland/PA)
Mae cwpl ifanc a ddihangodd o’u cartref wedi trychineb Fukishima yn Japan union flwyddyn yn ôl wedi bod yn annerch cannoedd o brotestwyr gwrth-niwclear yng Ngwlad yr Haf.

Fe wnaeth Makoto Ishiyama a’i wraig Akiko Ishiyama ymuno â channoedd o wrthdystwyr wrth brif fynedfa atomfa Hinkley Point y prynhawn yma i ddisgrifio’u profiad o fyw trwy’r trychineb.

Mae Hinkley Point yn cael ei weld gan ymgyrchwyr gwrth-niwclear fel blaen y gad yn eu brwydr yn erbyn ynni niwclear yn sgil cynlluniau i adeiladu adweithydd niwclear newydd ar y safle.

Fe wnaeth y cwpl o Japan adael eu cartref yn Fukushima chwe mis ar ôl y trychineb oherwydd pryderon am effaith ymbelydredd arnyn nhw ac ar eu plentyn.

“Rydyn ni’n bryderus am y risg o ymbelydredd i’n hiechyd,” meddai Mr Ishiyama. “Dydyn ni ddim eisiau difaru yn y dyfodol, felly fe wnaethon ni benderfynu ffoi.

“Mae’r llywodraeth yn dweud ei bod hi’n ddiogel yno ac mae arnyn nhw eisiau i bobl leol ddod yn ôl, ond celwydd llwyr yw hyn, mae risg yno o hyd, a dyw hi ddim yn ddiogel yno.”

Adweithydd newydd

Mae atomfa yn Hinkley Point ers blynyddoedd, a dyma’r safle sydd wedi cael ei ddewis ar gyfer yr adweithydd niwclear newydd cyntaf ym Mhrydain.

Roedd yr 800 o brotestwyr yno o bob rhan o Brydain i ddangos eu gwrthwynebiad i ehangu’r atomfa bresennol ac i gynlluniau’r llywodraeth am saith o atomfeydd newydd ledled Prydain, gan gynnwys Wylfa ym Môn.

Ymysg y protestwyr yno roedd yr amgylcheddwr blaenllaw Jonathon Porritt, Kate Hudson, ysgrifennydd cyffredinol CND ac arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas.

“Mae pawb ohonon ni’n benderfynol o sicrhau ein bod ni’n ennill y frwydr hon yn erbyn ynni niwclear,” meddai Caroline Lucas.

“Fe wnaeth Fukushima atgoffa pobl fod ynni niwclear, pan fo damweiniau, yn drychinebus o ddinistriol. Does arnon ni ddim eisiau’r math hyn o broblemau yma.

“Y neges mae arnon ni eisiau ei hanfon allan oddi yma yw fod ynni niwclear yn anniogel, mae’n aneconomaidd, ond yn fwy na dim mae’n ddianghenraid, does arnon ni mo’i angen i gael ein hallyriadau i lawr ac i gadw’r goleuadau ymlaen.”

Abertawe a Chaerdydd

Fe wnaeth un arall o’r siaradwyr dynnu sylw at y ffaith fod Abertawe a Chaerdydd o fewn y cylch a fyddai o fewn cyrraedd i ollyngiad ymbelydrol o Hinkley Point.

Dywedodd Zoe Smith, llefarydd ar ran y grŵp South West Against Nuclear, ei bod hi’n bwysig i gymunedau ledled De-orllewin Lloegr a Chymru ddeall pa mor agored ydyn nhw i effeithiau damwain debyg i Fukushima.

“Mae Bryste, Exeter, Taunton, Yeovil, Caerdydd ac Abertawe i gyd o fewn y parth gwacáu 50 milltir sy’n cael ei argymell gan yr Unol Daleithiau a Ffrainc. Mae’r bygythiad o ollyngiad ymbelydrol neu drychineb yn un real iawn,” meddai.