Boris Johnson
Fe fydd Boris Johnson yn cyhoeddi ei fod yn teimlo fel dyn “sydd wedi adeiladu hanner pont” wrth iddo lansio ei ymgyrch i gadw gafael ar swydd Maer Llundain.

Dywedodd ei fod yn gallu “gweld yr ochor arall” ac y bydd yr etholiad yn ddewis rhwng moderneiddio neu Blaid Lafur “anghyfrifol ac anfforddiadwy”.

“Dydw i ddim fel arfer yn gymeriad pesimistaidd ond rydw i’n gweld perygl gwirioneddol i’r ddinas ac i‘r wlad yma ar 3 Mai,” meddai.

“Mae fy mhenderfyniad i ddod a gwastraff a chamreolaeth y Maer diwethaf i ben wedi rhyddhau’r arian i dalu am gynllun cryf ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n buddsoddi’r arian ar bethau y mae pobol Llundain eisiau ei weld. Rydw i’n gallu gweld beth sydd ei angen.”

Yn gynharach roedd David Cameron wedi annog aelodau ei blaid i helpu Boris Johnson i gael ei ail-ethol.

“Mae wedi amddiffyn budd economaidd Llundain bob gafael – credwch chi fi, rydw i’n gwybod hynny o brofiad,” meddai.

“Ni ddylai Ken Livingstone gael y cyfle i reoli ein prifddinas unwaith eto.”

Mae Ken Livingstone, y cyn-faer a fydd yn cynrychioli’r Blaid Lafur yn yr etholiad, wedi addo torri pris tocynnau teithio 7% erbyn 7 Hydref, os yw’n cael ei ail-ethol.

Bydd Brian Paddick yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol unwaith eto, er gwaethaf ymgyrch gan gyn Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Lembit Öpik, i sicrhau’r enwebiad.