Charles Kennedy
Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, wedi rhybuddio yn erbyn “ymgyrch llwythol” i atal annibyniaeth i’r Alban.

Dywedodd Charles Kennedy ei fod yn gobeithio y byddai Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Ceidwadwr yn gallu cydweithio er mwyn ymgyrchu am bleidlais ‘na’.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd The Herald dywedodd y byddai ymgyrch sy’n “cynnwys enfys o safbwyntiau gwahanol” yn apelio at yr etholwyr.

“Rydw i yn gobeithio y bydd Plaid Lafur yr Alban a’r undebau yn rhoi eu pryderon ynglŷn â’r Ceidwadwyr o’r neilltu ac yn cytuno i rannu llwyfan â nhw,” meddai.

“Fe fyddai ymgyrch llwythol yn brofiad anodd iawn i bawb fyddai yn rhan ohoni.”

Ychwanegodd bod yr SNP yn arbenigo ar ddweud nad eu bai nhw oedd unrhyw beth, gan feio unrhyw newyddion drwg ar San Steffan.

Dywedodd hefyd bod obsesiwn Alex Salmond â hyrwyddo ei hun yn fan gwan ganddo.