Alex Salmond
Mae clwb pêl-droed Celtic wedi gwrthod honiad gan Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, fod angen sicrhau dyfodol Rangers “ers lles pêl-droed yn yr Alban”.

Roedd y Prif Weinidog wedi dweud fod pob un o gefnogwyr Celtic yn deall pam oedd rhaid achub Rangers, ac na fyddai Celtic yn ffynnu heb eu gelynion pennaf.

Ymatebodd oedd Alex Salmond i’r argyfwng ariannol sy’n peryglu dyfodol y clwb sy’n chwarae yn Ibrox.

Bu’n rhaid i Rangers alw’r gweinyddwyr ar ôl methu a thalu bil treth o £9 miliwn. Mae’r clwb hefyd yn wynebu achos tribiwnlys yn ymwneud â thaliadau cyflogau dros y blynyddoedd.

“Rydym ni’n siomedig iawn gyda honiadau’r Prif Weinidog fod ‘angen’ Rangers ar Celtic ‘angen’ Rangers ac na fydden ni’n gallu ffynnu fel arall,” ebe’r clwb ar ei safle Twitter swyddogol.

Roedd prif weithredwr y clwb, Peter Lawwell, eisoes wedi dweud byddai Celtic yn gallu goroesi a ffynnu heb Glasgow Rangers.

Mewn cyfweliad gyda Sir David Frost ar Al Jazeera Saesneg, roedd Alex Salmond wedi honni fod “hyd yn oed cefnogwyr mwyaf eithafol Celtic yn deall na all Celtic ffynnu oni bai fod Rangers yna”.