Jeremy Hunt
Mae hiliaeth mewn pêl-droed yn bwnc llosg unwaith eto.

Taniwyd y fflamau gan y chwaraewr o Uruguay sy’n chwarae i dîm Lerpwl, Luis Suarez, wrth iddo wrthod ysgwyd llaw Patrice Evra o Manchester United cyn y gêm rhwng y ddau dîm ddoe.

Mi gafodd Suarez ei atal am wyth o gemau ar ôl iddo gam-drin Evra yn hiliol ym mis Hydref.

Beirniadwyd Suarez yn hallt am ei ymddygiad ddoe gan reolwr Manchester United, Alex Ferguson.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, wedi dweud heddiw fod camau breision wedi eu cymryd o ran hiliaeth mewn chwaraeon ond rhybuddiodd y byd pêl-droed i beidio â bod yn hunan fodlon am y mater.

Dywedodd wrth y BBC ei fod yn bwriadu cyfarfod â’r Prif Weinidog i drafod hiliaeth ac ymddygiad mewn pêl-droed. Mae David Cameron eisoes wedi datgan ei fod yn bwriadu cynnal uwchgynhadledd i drafod hiliaeth oddi fewn y byd pêl-droed yn ddiweddarach y mis hwn.