David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi datgan heddiw ei fod yn cefnogi’r Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley a’r newidiadau arfaethedig i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn Lloegr sydd yn achosi cryn ddadlau yn y Senedd ar hyn o bryd.

Y sôn ydy fod sawl aelod o gabinet Mr Cameron yn ddistaw bach yn gwrthwynebu’r newidiadau. Roedd un ffynhonnell yn Stryd Downing yn dweud y dylai’r Ysgrifennydd Iechyd “gael ei saethu”.

Ond dywedodd Mr Cameron mewn erthygl ym mhapur newydd y Sunday Times nad oedd unrhyw ddewis arall. Roedd yn rhaid diwygio’r Gwasanaeth Iechyd, meddai. Mae gormod o fiwrocratiaeth oddi fewn y system, meddai, gyda gormod o benderfyniadau yn cael eu harwain gan y fiwrocratiaeth hynny yn hytrach na gan glinigwyr.

“Ond dwi am dawelu meddwl pobl trwy ddweud fod y newid yr ydym yn ei gynnig yn esblygiadol nid yn chwyldroadol,” meddai.

Dywedodd fod y Blaid Lafur wedi dechrau’r diwygio call. “Mae’n rhaid inni adeiladu ar hyn – a dyma beth mae’r Mesur yn ei wneud,” meddai. Mae Mr Cameron yn mynnu fod y Mesur “yn rhoi grym i feddygon a nyrsys, ac mi fyddai’n arwain at “mwy o ddewis ar gyfer cleifion a chystadleuaeth ar gyfer triniaeth.”

Mi fyddai’r arbedion gwerth £4.5 biliwn yn sgil pasio’r Mesur yn cael eu defnyddio ar gyfer gofal y cleifion, meddai.

Ond wrth i’’r Mesur fynd trwy’r Senedd, mae’r Llywodraeth wedi gorfod derbyn nifer o welliannau ac wedi cael amser caled gan Dŷ’r Arglwyddi.

Mae rhai wedi awgrymu y dylai Andrew Lansley ymddiswyddo er mwyn  ceisio achub y sefyllfa ond nid yw’r Ysgrifennydd yn derbyn hynny. “Rydym fel Llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, “ meddai.